Eleni, mae Ofcom wedi newid y ffordd mae e’n cynnal arolwg am sut mae pobl Cymru yn cael newyddion. Mae’n ddarlun diddorol sy’n codi cwestiynau am boblogrwydd rhai o’r ffynonellau.
Rhaid cyfaddef, rwyf wedi bod yn edrych ymlaen at ddarllen adroddiad Ofcom Cyfryngau’r Genedl Cymru 2026, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2026. Ond mae gen i deimladau cymysg.
Ar un llaw, rwy’n falch bod Ofcom yn trïo casglu gwybodaeth ehangach. Ar y llaw arall, mae’n rhwystredig bod dim dilyn tueddiadau, a bod diffyg gwybodaeth am rhai o’n cyhoeddwyr newyddion.
Dyma’r hyn mae Ofcom yn ei ddweud:
Newidiwyd methodoleg yr arolwg yn Arolwg Cael Gafael ar Newyddion eleni…..Gwnaed hyn er mwyn cofnodi’n well sut mae pobl yn cael gafael ar newyddion goddefol a damweiniol a allai ddigwydd yn ystod bywyd bob dydd…Ni ddylid cymharu’r data’n uniongyrchol â data blynyddoedd blaenorol.
‘Big Tech’ yn herio’r Bîb
Er nad oes modd ‘cymharu’ data 2026 a data 2025, rwy’n credu bod dweud stori ddiddorol yma…


Felly, yn y fethodoleg newydd eleni, mae canran uwch o bobl yn dilyn rhai o’r prif ffynonellau newyddion. Rwy’n credu bod y system hon yn well o ran casglu gwybodaeth am bobl sy’n ‘gweld/clywed’ yn newyddion ar hap, nid y bobl sy’n ‘dilyn’ y newyddion yn unig.
Mae tair ffynhonnell dros 50% y tro yma, ac mae ffigwr Google yn sylweddol uwch.
Sylwadau:
- Mae’r data eleni yn dangos i ba raddau mae’r cwmnïau mawr: BBC, ITV, Meta a Google – yn ‘gatekeepers’ sy’n rheoli newyddion ni – boed hynny trwy algorithmau neu benderfyniadau golygyddol.
- Bydd rhai yn gofyn ‘ble mae Wales Online?’ ‘ble mae Golwg?’ ‘ble mae Nation.Cymru?’ etc. Yn sicr mae rhai o’r cyfryngau yma yn ‘cuddio’ yn y data, e.e. mae llawer o bobl yn dilyn Wales Online ar Facebook.
- Mae’r system newydd yn gallu rhoi mwy o hyder i ni fel cyfathrebwyr bod yr arolwg yn adlewyrchu bywydau pobl, er bod hi’n anoddach gweld y ‘trends’.
Ble mae pobl yn ffeindio newyddion am Gymru?
Rwy’n credu bod y cwestiwn hwn yn codi nifer o gwestiynau!


Y peth mwyaf diddorol am ddata 2026, efallai, ydy’r gwahaniaeth rhwng newyddion Cymreig a newyddion yn gyffredinol.
Mae’r BBC yn gryf i raddau tebyg yn y ddau gategori.
Ond mae gwahaniaeth sylweddol ar ITV, Facebook, ac yn arbennig Google – lle mae pobl yn fwy tueddol i ddilyn newyddion rhyngwladol.
Eto – ble mae Wales Online, Nation.Cymru etc? Anodd credu bod mwy o bobl yn cael newyddion Cymreig o Channel 4 News. Ydy ei ddilynwyr i gyd yn ar Facebook?
Gyda chymaint o ‘aggregators’, rwy’n credu bod hi’n anoddach gwybod beth sy’n cyfrif fel ‘newyddion’ ac i dracio llwyddiant cyhoeddwyr/darlledwyr.
Dyma rywbeth rwy’n bwriadu ymchwilio mewn blog arall, a hoffwn i glywed eich sylwadau chi.
Podlediadau’n tyfu’n sylweddol yng Nghymru
Un elfen ddiddorol eleni ydy’r sylw mae Ofcom yn ei roi i bodlediadau.
Does dim amheuaeth bellach eu bod nhw’n rhan bwysig o’r cyfryngau, ac nid ‘swigen’ oedd eu twf yn ystod y pandemig.
Erbyn hyn, mae bron chwarter poblogaeth Cymru yn gwrando bob wythnos.
Nawr, mae’n anodd cymharu’n uniongyrchol – ond ystyriwch y 23% yno, ac wedyn meddyliwch am y canran sy’n dilyn newyddion BBC Radio Wales….

Sylwadau:
- Mae podlediadau yn llawer mwy poblogaidd ymysg pobl 15-34 oed (33.4%) a 35-54 (28.3%) na 55+ (13.1%)
- Ar beth yn union mae pobl yn gwrando? Wel, dyma le mae’n anodd oherwydd mae podlediadau yn niche iawn! Mae hyd yn oed yr un mwyaf poblogaidd – The Joe Rogan Experience – yn cael tua 10% yn unig o wrandawyr podlediadau. Erbyn i chi gyrraedd rhif 10 ar y rhestr – The Overlap – mae hyn i lawr i 2.2%.
- Mae ychydig o wybodaeth am bodlediadau Cymraeg eu hiaith. Daeth Ofcom o hyd i 228 podlediad Cymraeg. Addysg, cymdeithas a’r celfyddydau ydy’r categorïau mwyaf cyffredin.
Casgliadau
I gyfathrebwyr, mae’r data yma’n dangos pwysigrwydd nifer o bethau:
- Ar lefel genedlaethol, mae BBC Cymru ac ITV Cymru yn hollbwysig o ran datblygu perthnasau
- Mae’n bwysicach nag erioed i wybod pwy yn union ydy’r gynulleidfa darged, er mwyn gallu targedu’r ‘niche’ hwnnw
- Content is king. Mewn byd aml-blatfform, mae’r stori, lluniau a chopi yn gallu bod yr un mor bwysig â’r cyfrwng. Mewn termau syml, os mae’r gynulleidfa ar Facebook, mae llai o wahaniaeth rhwng gweld post gan y BBC, Golwg neu influencer.
- Mae’r cyhoeddwyr ‘traddodiadol’ dal yn anhygoel o bwysig o ran cyrhaeddiad a dylanwad. Ond erbyn hyn, mae’n bwysig hefyd bod cyfathrebwyr yn datblygu sgiliau ‘newyddiaduraeth’ traddodiadol.
Eisiau clywed mwy?
Os rydych chi’n mwynhau blogiau fel hyn, tanysgrifiwch i’m cylchlythyr.
[…] Posted on August 13, 2026August 13, 2026 by Richard Nosworthy darllennwch yn gymraeg […]