Sut mae’r newyddion yn newid yng Nghymru ar ddechrau 2026

Mae ambell i syrpreis bach yn adroddiad diweddaraf Ofcom am fywydau ar-lein pobl Cymru. Beth mae rhain yn eu meddwl i’ch gwaith cyfathrebu chi?

Pa ffordd well i ddechrau blwyddyn newydd na dadansoddi ymchwil newydd Ofcom? Cyn Nadolig, cyhoeddwyd adroddiad Ein Gwlad Ar-Lein.

Gyda 124 o dudalenau, efallai nad oes digon o amser gyda chi i’w ddarllen i gyd. Felly dyma rhai o’r uchafbwyntiau i gyfathrebwyr.

1. Mae Reddit wedi tyfu’n fawr yng Nghmru

Dwi wedi bod yn defnyddio Reddit er blynyddoedd, ond do’n i ddim yn disgwyl iddo fe dyfu cymaint â mae e wedi gwneud yn ddiweddar.

Erbyn hyn, mae’n cyrraedd 62% o oedolion Cymru sydd ar-lein. Dros y DU, mae’r wefan wedi goddiweddyd TikTok fel y pedwerydd gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol.

Pam? Mae’n debyg bod pobl eisiau barn pobl go iawn, mewn byd llawn newyddion ffug a deallusrwydd artifisial.

Os nad wyt ti’n gyfarwydd a Reddit, yn y bôn mae’r wefan yn llawn fforymau ar bob pwnc o dan yr haul. Yn gynyddol, rwy’n ei ddefnyddio i chwilio am wybodaeth yn lle Google.

Felly beth mae hyn yn meddwl i gyfathrebwyr?

Wel i ddechrau, mae’n ffordd wych i wybod pa gwestiynau a phynciau sy’n bwysig. Gall hyn eich helpu i greu cynnwys ar gyfer eich gwefan a chyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n ffordd dda i rannu gwybodaeth gyda phobl hefyd. Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU yn gwneud hyn yn barod.

Ydy’ch sefydliad chi yn defnyddio Reddit eto? Rhowch wybod i fi yn y sylwadau.

2. Gwefannau newyddion: BBC yn bellach ar y blaen, Wales Online yn curo safleoedd Llundain

Safle’r BBC sy’n rhif un o hyd, ac mae hi wedi tyfu o 1.6 i 1.8 miliwn o ddefnyddwyr Cymreig.

Dim syndod mawr felly, gan taw’r Bîb sy’n arwain yn ngwledydd eraill y DU. Ond mae’n drawiadol bod Wales Online yn ail gyda 1.1 miliwn, uwchben safleoedd Prydeinig fel y Sun, Guardian a’r Mail. Yn yr Alban, does dim gwefan ‘lleol’ tebyg – mae’r Daily Record yn 7fed.

Yn amlwg, mae gwefan y BBC a Wales Online yn lleoedd pwysig i ystyried ennill sylw yn 2026. Ond nid popeth yw niferoedd – ystyriwch y gynulleidfa hefyd.

3. Mwyafrif yn defnyddio ‘Siop un Stop’ ar gyfer newyddion

Yn yr hen ddyddiau, ro’n i’n son am ‘Guardian readers’ neu ‘South Wales Echo readers’. Erbyn hyn, mae argaeledd hawdd nifer o ffynhonnellau yn meddwl bod darllenwyr yn edrych ar amrywiaeth o wefannau mewn un lle.

Yn ô Ofcom, mae cydgasglyddion newyddion (news aggregators) – gwefannau fel Apple News a Google News -yn boblogaidd iawn, yn ogystal â darllen newyddion ar Facebook. Mae 59% o oedolion y DU yn defnyddio rhyw fath o ‘aggregator’ er mwyn dilyn y newyddion.

I gyfathrebwyr felly, mae ‘na gyfle i ehangu cyrhaeddiad dy stori di. Ar y llaw arall, mae angen straeon cryf a phenawdau sy’n dal sylw er mwyn torri trwodd. Cofiwch hyn wrth greu datganiad i’r wasg neu straeon newyddion ar gyfer dy wefan.

4. Tŵf y Podlediad Gwleidyddol Cymreig

Richard Wyn Jones and Vaughan Roderick - Gwleidydda podcast
Richard Wyn Jones a Vaughan Roderick yn recordio podlediad Gwleidydda yn Tafwyl 2025

Gydag etholiad ar y gorwel, mae’n braf i weld mwy o bodlediadau am wleidyddiaeth Cymru. Dyma rhai dwi wedi bod yn dilyn (a rho wybod i fi os oes rhai dwi wedi’u colli):

  • For Wales, See Wales – mae colofnydd y Guardian Will Hayward a chomediwyr Mel Owen a Robin Morgan yn cyfuno dadansoddi proffesiynol, hiwmor, ac esboniadau hygyrch.
  • Talking Wales – un sydd mor newydd (lansiwyd dechrau Ionawr) – dwi heb wrando eto!
  • Yn The Welsh Politics Pod, Mae Lee Waters MS, Yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, a chyn-Ymgynghorydd Arbennig Ceidwadol Lauren McEvatt yn ymchwilio a dadlau am faterion Seneddol a’r DU.
  • Senedd Sources – gyda’r newyddiadurwr Ollie Cole, cyn-ymgynghorydd Llafur Cymru Jo Kiernan, a’r cyn-ymgeisydd a chyn-ymgynghorydd Ceidwadol Craig Lawton.
  • Mae’r BBC wedi cynyddu ei allwbwn hefyd. Mae Gwleidydda (gyda Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones) yn fwy rheolaidd, gyda chraffu ardderchog. Mae hynny ar ben Walescast a Sunday Supplement yn Saesneg.
  • Mae gan Golwg ei bodlediad gwleidyddol, Craffu360. Cyfweliadau da gydag enwau amlwg, ond llai aml – gyda phennod bob mis neu ddau.

Felly gan bod podlediadau’n tyfu, ystyriwch os oes cyfle i dy sefydliad di. Gall hynny fod yn creu podlediad dy hun (fel Oxfam Cymru ac fy nghyn-gleient Hub Cymru Africa), cynnig gwesteion/pynciau, neu trwy noddi podlediad.

Cylchlythyr a Chymorth Cyfathrebu

Os wyt ti eisiau gwella’r sylw i dy sefydliad di yn y cyfryngau, neu gyfleu negeseuon yn fwy effeithiol, dwi yma i helpu.

Dwi’n rhedeg sesiynau hyfforddiant a chynnig cefnogaeth i sefydliadau nid-er-elw yng Nghymru, sy’n cynnwys:

Cysyllta â fi am brisiau, gwybodaeth, neu sgwrs anffurfiol.

Tanysgrifia i’m cylchlythyr er mwyn derbyn mwy o cyngor, gwybodaeth a chynigion.

1 thought on “Sut mae’r newyddion yn newid yng Nghymru ar ddechrau 2026

Leave a Reply

Discover more from Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading