Dysgu (neu wedi dysgu) Cymraeg? Rhannwch eich stori gyda Podlediad Hefyd

Ar ôl ail-ddechrau’r podlediad eleni (2025), rwy’n chwilio am bobl i gymryd rhan yn y gyfres nesaf. Oes gennych chi stori da am ddysgu Cymraeg fel oedolyn? Allech chi ysbrydoli dysgwyr eraill trwy rannu’ch profiadau? Dyma’ch cyfle! (Dyddiad cau – 5/12/2025 wedi ymestyn i 12/12/2025)

Beth ydy Podlediad Hefyd?

Dyma fi! Cyflwynydd Podlediad Hefyd – Richard Nosworthy

Dechreuais i Bodlediad Hefyd yn 2021. Ro’n i wedi dysgu Cymraeg fy hun, ac ro’n i’n teimlo bod potensial i rannu straeon siaradwyr newydd er mwyn ysbrydoli dysgwyr, magu hyder, a chreu rhywbeth diddorol i bawb sy’n deall y Gymraeg.

Dros dwy flynedd, siaradais i gyda dros 20 o bobl o gefndiroedd amrywiol. Roedd hi’n wych i glywed pam ddechreuon nhw ddysgu, cyfrinachau eu llwyddiant, y heriau, a sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.

Gwnes i ail-lansio’r podlediad yn 2025 gyda chyfres o chwech pennod newydd.

Engraifft o’r podlediad – fy sgwrs gydag Israel o Fanceinion/Hong Kong

Pwy sy’n gallu bod yn westai?

Rwy’n chwilio am 5 o bobl ychwanegol i fod yn westeion yng nghyfres 3 (mae gen i un cyfweliad wedi’i recordio’n barod).

Y bwriad ydy cynllunio a recordio’r penodau yn ystod hydref-gaeaf 2025/6, a’u cyhoeddi yng ngwanwyn 2026.

Eisiau cael eich ystyried? Mae’n rhaid i chi fod yn:

  • Oedolyn (18+) sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn
  • Siaradwr eitha rhugl, ond does dim rhaid i chi fod yn berffaith – Cymraeg digon da i gynnal sgwrs am 20 munud.
  • Rhywun gyda chefndir/stori diddorol – beth sy’n eich gwneud chi’n wahanol?
  • Rhywun sy’n defnyddio’r iaith yn rheolaidd
  • Fodlon rhannu eich stori, a lluniau ohonoch chi, yn gyhoeddus ar y podlediad ac ar y we/cyfryngau etc.

Cymerwch ran!

Os mae hwn o ddiddordeb, anfonwch ebost ataf gyda manylion bras am sut a pham dych chi wedi dysgu Cymraeg.

Yn anffodus, allai ddim gynnwys pawb. Felly byddai’n chwilio am y straeon mwyaf diddorol, yn ogystal â sicrhau bod amrywiaeth o gyfranogwyr.

Byddai’n trefnu sgwrs cynllunio cyn recordio unhryw beth, a byddai’n defnyddio eich data chi o fewn termau fy mholisi preifatrwydd.

Ebostiwch: helo@richardnosworthy.cymru erbyn 5/12/2025 12/12/2025

Gwrandewch – a rhannwch eich barn/cwestiynau

Er mwyn sicrhau eich bod chi’n clywed y penodau newydd, tanysgrifiwch i’r podlediad ar eich hoff ap chi – ar Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Pocket Casts, Youtube, ac apiau eraill.

Mae 27 o benodau i chi fwynhau’n barod. Byddwn i’n ddiolchgar iawn am eich sgoriau (ratings) ac adolygiadau!

A dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon er mwyn dilyn diweddariadau a chyfrannu at y sgwrs.

Leave a Reply

Discover more from Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading