Yn ddiweddar, ysgrifennais flogiad i wefan CharityComms. Y nod oedd helpu llefarwyr a swyddogion cyfathrebu gyda chyfweliadau yn y cyfryngau.
Roeddwn i wedi meddwl am ysgrifennu hon am sbel. Gan fy mod i wedi darparu hyfforddiant cyfryngau i nifer o elusennau erbyn hyn, ro’n i eisiau son am y problemau mwya cyffredin a sut i’w datrys nhw. Yn y darn, dwi’n defnyddio fy mhrofiadau o wylio’r newyddion, bod yn gyn-newyddiadurwr a llefarwr elusen, a bod yn hyfforddwr cyfryngau.
Diolch i CharityComms am y cyfle yma. Os nad ydych chi wedi ymuno eto (rwy’n aelod gan bod gweithwyr llawrydd yn cael ymuno), ewch draw i’w gwefan ardderchog i weld y cymorth sydd ar gael.
Gobeithio bod y canllaw yma’n ddefnyddiol. Beth dych chi’n meddwl? Rhowch wybod i fi os oes gennych chi sylwadau neu gwestiynau – yn hy sylwadau isod neu trwy ebost.
