Cyflwr y Cyfryngau Newyddion yng Nghymru yn 2025

Er bod sector cyfryngau Cymru yn fach, mae cyfleoedd da i gyfathrebwyr sydd am gyrraedd cynulleidfaoedd mawr. Felly beth yw’r prif ffynonellau, a sut ddylen ni werthu ein straeon ni?

Hyd yn oed yn oes Netflix a Tiktok, mae lle pwysig i blatfformau newyddion traddodiadol. Mae 80% o’r cyhoedd yn dweud eu bod yn cymryd diddordeb yn newyddion Cymreig, felly mae hyn yn gyfle da i gyfathrebwyr sector cyhoeddus a nid-er-elw.

Nod y blogiad yma ydy helpu cyfathrebwyr i ddeall y dirwedd yn 2025, gan ddefnyddio’r data diweddaraf roeddwn i’n gallu dod o hyd iddo.

Weithiau, mae’n anodd gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng cyfryngau gwahanol. Er mwyn i chi ddehongli’r ffigyrau, rydw i wedi defnyddio fy mhrofiad a barn broffesiynol.

Adroddiadau Media Nations ac Online Nation Ofcom ydy’r prif ffynonellau.

Pencadlys BBC Cymru yng Nghaerdydd. Mae’r BBC yn dominyddu cyfryngau newyddion Cymru.

Y Darlun Mawr

Mae un sefydliad – y BBC – yn dominyddu cyfryngau newyddion Cymru. Mae ganddo’r cynulleidfaoedd mwyaf ar deledu, radio ac ar-lein. Rwy’n credu bod ganddo fe’r dylanwad gwleidyddol mwyaf hefyd – nid oherwydd maint y gynulleidfa yn unig, ond hefyd oherwydd yr adnoddau a’r sylw mae e’n ei roi i’r Senedd.

Er gwaetha’r twf sylweddol o newyddion ar-lein, teledu ydy’r prif blatfform yng Nghymru o hyd, gyda ITV Cymru Wales yn gystadleuaeth gref i’r BBC.

Tua hanner y boblogaeth sy’n defnyddio gwefannau ac apiau ar gyfer newyddion, ac mae poblogrwydd Wales Online yn drawiadol – yn herio’r BBC a chyfryngau Llundain.

Wrth gwrs, mae pobl yn dilyn cymysgedd o newyddion lleol, Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol – ac mae cyfryngau’r DU, a byd-eang, yn rhoi sylw i Gymru. Tu hwnt i faint y gynulleidfa, rhaid i ni gofio bod y cyfryngau Cymraeg, lleol neu niche yn bwysig o ran cynulleidfaoedd penodol.

Newyddion Teledu yng Nghymru

Mae 64% o bobl yng Nghymru yn gwylio newyddion teledu. Felly os dych chi’n gyfathrebwr, dylech chi ystyried sut i sicrhau sylw teledu i’ch sefydliad chi, o leiaf.

BBC 1 (47%) ac ITV 1 (34%) ydy’r prif ddarlledwyr. Mae’r sianelau yma’n darlledu rhaglenni ar gyfer y DU cyfan, a Chymru yn benodol, ar wahân.

Mae prif raglen BBC Wales Today am 6:30YH yn ystod yr wythnos, a newyddion ITV Wales am 6YH, gyda bwletinau eraill trwy weddill y dydd/penwythnos. Ar ITV Wales mae mwy o bwyslais ar straeon ‘diddordeb dynol’, ac mae’r BBC yn rhoi mwy o sylw i faterion gwleidyddol.

Ar raglennu Newyddion S4C mae cymysgedd o straeon Cymreig a rhyngwladol, a gynhyrchir gan y BBC.

TV remote pointing at screen
Teledu ydy’r ffynhonnell newyddion mwyaf yng Nghymru yn 2025.

Tu hwnt i’r newyddion, mae rhaglenni gwleidyddol a materion cyfoes. Sharp End ar ITV, er enghraifft, a Politics Wales bob dydd Sul ar BBC Cymru.

Wrth reswm, mae’r darlledwyr hyn yn ail-bwrpasu cynnwys a straeon ar gyfer radio, gwefannau, apiau a’r cyfryngau cymdeithasol. Ennill sylw teledu, a gall y stori fynd ymhell.

Gwefannau ac Apiau Newyddion

Mae newyddion ar-lein yn dal i fyny gyda theledu, gyda 48% o bobl Cymru yn defnyddio apiau a gwefannau:

  • Gwasanaeth ar-lein y BBC (Cymreig a rhyngwladol) sydd ar y brig, yn cyrraedd 1.64 miliwn.
  • Mae Wales Online (1.19 miliwn, newyddion Cymreig yn bennaf) yn ail, gyda gwefannau Prydeinig poblogaidd gan y Sun, y Mail a’r Mirror yn agos tu ôl.
  • Mae gwefannau cenedlaethol Cymreig eraill yn cynnwys Nation.Cymru, sy’n hawlio 1 miliwn o olygfeydd tudalen bob mis ar gyfartaledd, a Golwg 360 sy’n hawlio tua 45,000 ymweliad i’w wefan bob wythnos
  • Yn ogystal â gwasanaethau cenedlaethol, mae gan wefannau newyddion rhanbarthol cynulleidfaoedd mawr. Cafodd North Wales live 9.2 miliwn o olygfeydd tudalen ym Medi 2023. Cafodd safle’r South Wales Argus 3.6 miliwn.

Fel y gwasanaeth teledu, mae gan y BBC agenda ‘gwasanaeth cyhoeddus’ cryf gyda blaenoriaeth uchel i wleidyddiaeth a materion cymdeithasol. Mae Wales Online yn fwy ‘tabloid’, gyda phwyslais ar drosedd, diddordeb dynol, defnyddwyr (‘consumer’) ac enwogion.

Radio a Phodlediadau

Stiwdio radio. Ffoto gan Pixabay / Creative Commons (CC0)

Mae radio yn ffynhonnell newyddion pwysig yng Nghymru, ond mae’r data yn anodd cymharu.

Mae 44% ohonon ni’n dweud bod ni’n gwrando ar newyddion radio. Ond wrth ystyried bod 89% o bobl yn gwrando ar y radio bob wythnos, a bod y prif orsafoedd i gyd yn darlledu newyddion, mae’n edrych yn debygol i fi bod y ffigwr go iawn yn uwch.

Yn ôl Ofcom (yn dyfynnu ffigurau RAJAR), y gorsafoedd gyda’r ‘market share’ mwyaf ydy BBC Radio 2 (18%), BBC Radio 4 (11%) a Heart (8.8%). Ond prin iawn yw’r newyddion am Gymru ar y gorsafoedd hyn.

Y gorsafoedd gyda newyddion Cymreig sylweddol ydy BBC Radio Wales (4ydd lle) a BBC Radio Cymru (4ydd yn y Gogledd).

Cyrhaeddiad wythnosol BBC Radio Wales ydy 384,000 a BBC Radio Cymru 113,000, gyda rhaglenni newyddion a materion cyfoes 7 niwrnod yr wythnos a bwletinau bob awr. Mae Radio Wales Breakfast a Dros Frecwast yn rhaglenni allweddol. Ar fore Sul, mae Radio Wales yn darlledu’r rhaglen wleidyddol Sunday Supplement.

Mae 18% o oedolion Cymru yn gwrando ar bodlediadau unwaith yr wythnos. Mae’r podlediada am newyddion a materion cyfoes Cymreig yn cynnwys Walescast a Gwleidydda (BBC) a’r podlediad annibynnol For Wales, See Wales.

Papurau Newydd a Chylchgronau Newyddion

Dim ond nifer bach o bobl – 22% – sy’n cael newyddion o bapurau newydd heddiw.

Tu hwnt i’r papurau mawr Prydeinig, mae papurau a chylchgronau Cymreig yn fach o ran nifer o ddarllenwyr. Yn 2023, roedd cylchrediad y Western Mail (‘The National newspaper of Wales’) ychydig yn uwch na 5000. Roedd y North Wales Daily Post ar 8350, ac mae Golwg yn dweud bod 7500 o bobl yn darllen ei gylchgrawn bob wythnos.

O safbwynt cysylltiadau â’r cyfryngau, dydy’r ffigurau hyn ddim o bwys mawr, gan fod y cyhoeddiadau hyn yn argraffu eu straeon ar lein hefyd, fel arfer.

Casgliadau – ennill sylw yng nghyfryngau Cymru

Nid fan hyn yw’r lle i esbonio popeth am ymgysylltu â’r cyfryngau, ond dyma rhai pethau i ystyried o safbwynt y blogiad yma:

  • Mae pwysigrwydd newyddion teledu yng Nghymru yn meddwl bod creu straeon gyda lluniau/cyfleoedd ffilmio ac astudiaethau achos da yn arbennig o bwysig.
  • Am yr un rheswm, mae’n ddefnyddiol i sicrhau bod llefarwyr cyfryngau da gyda chi. Ydyn nhw wedi cael hyfforddiant cyfryngau yn ddiweddar?
  • Sicrhewch fod chi’n darparu pobl sy’n siarad Cymraeg
  • Datblygwch berthnasau da gyda gohebwyr sy’n arbenigo yn y pwnc dych chi’n gweithio arno. Mae BBC Cymru yn lle da i ddechrau.
  • Os oes modd fframio eich stori mewn ffordd fyddai’n apelio at bobl tu allan i Gymru, ystyriwch gyfryngau Prydeinig. Gallai hyn fod yn ddylanwadol iawn – mae’r Guardian yn un cwmni sy’n cynnwys straeon Cymreig yn weddol aml.
  • Nid popeth ydy maint y gynulleidfa. Er enghraifft, gallai stori gref ar safle fel Nation.Cymru fod yn ddylanwadol a chael ei rhannu’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Mae ongl ‘diddordeb dynol’ yn bwysig, yn enwedig i Wales Online, ITV Wales neu sylw yn y tabloids Prydeinig.

Hyfforddiant Cyfryngau yng Nghymru

Ydych chi a’ch cydweithwyr wedi cael hyfforddiant cyfryngau?

Bydd hwn yn eich helpu chi i gyfleu’ch neges ac amddiffyn eich enw da. Rwy’n cynnig sesiynau wedi’u teilwra i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, elusennau a sefydliadau nid-er-elw yng Nghymru.

Darllenwch fwy, neu cysylltwch â fi i drafod eich anghenion.

1 thought on “Cyflwr y Cyfryngau Newyddion yng Nghymru yn 2025

  1. […] Posted on March 11, 2025March 11, 2025 by Richard Nosworthy Darllenwch yn gymraeg […]

Leave a Reply

Discover more from Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading