Os dych chi’n gweithio i elusen neu sefydliad cyhoeddus, mae’n debygol bod chi’n cael cyfleoedd i wneud cyfweliadau yn y cyfryngau. Ond sut gallech chi sicrhau bod e’n llwyddiant, nid llanast? Yn fy sesiynau hyfforddiant cyfryngau, dyma rhai o’r pethau rwy’n awgrymu dylai pob llefarydd osgoi.
Gwrthdyniadau
Byddwch yn ymwybodol o unrhywbeth rhyfedd gall tynnu sylw y gwylwyr i ffwdd o’r geiriau sy’n dod allan o’ch ceg. Os oes creision yd wedi’u sticio i ochr y ceg yno bydd neb yn sylwi am beth dych chi’n son.

Ateb y cwestiwn (gormod)
Ond, mae’n rhaid ateb y cwestiwn, on’d oes?!
Meddyliwch amdani fel hyn: mae eich ‘screen time’ yn gyfle prin i rannu eich neges gyda miloedd o bobl. Felly mae’n gwneud synnwyr i ddefnyddio’r amser yna i ddweud beth dych chi eisiau dweud.
Yr ateb, felly, ydy paratoi prif negeseuon a sicrhau bod nhw’n cael eu darlledu.
Ateb rhy hir
Yn aml, mewn cyfweliad ‘pre-record’, bydd y gohebydd yn chwilio am ateb sy’n crynhoi eich barn mewn 15-20 eiliad, ar y mwyaf.
Yn ddelfrydol bydd ‘na dechrau a diwedd clir. Os mae’r atebion yn rhy hir, mae’n bosib iawn bydd rhai o’ch geiriau yn cael eu torri allan.
Swnio’n fflat
Dydy newyddiadurwyr ddim yn eich gwahodd chi i wneud cyfweliad i rannu ffeithiau’n bennaf. Maen nhw eisiau barn. Gwell fyth os mae’n amlwg bod chi’n credu’n gryf yn eich achos a neges. Bydd ateb sydd ond yn dweud y ffeithiau mewn ffordd fflat ddim yn ysbrydoli unrhyw un. Mewn gwirionedd, bydd gwylwyr y rhaglen yn troi at Facebook neu gyflwr y carped.

Siarad siop
Peidiwch â siarad am strategaethau, gweledigaethau, fframweithiau ac yn y blaen. Does dim ots ‘da neb beth dych chi’n dweud mewn cyfarfodydd mewnol hirwyntog. Y cwestiwn ydy: beth mae hyn yn meddwl i’r person ‘ar y stryd’.
Diffyg paratoi
Mae paratoi yn gwbl allweddol i wneud cyfweliad da. Er mwyn creu argraff da, chi angen bod yn barod. Barod gyda beth dych chi eisiau dweud, a barod am bethau allai mynd yn rong fel cwestiwn embarassing neu eich plentyn yn byrstio mewn yn gofyn i fynd i’r toiled.
Crynodeb
Mae ‘na llawer o fanteision i wneud cyfweliadau teledu, a gobeithio byddwch chi’n llwyddo osgoi rhai o’r risgiau uchod! Os hoffech chi fwy o gymorth i sicrhau bod chi’n disgleirio ar y sgrîn, beth am gysylltu â fi am sesiwn hyfforddiant cyfryngau?