

David Clubb yw fy ngwestai y tro yma.
Mae Dave yn dod o ardal Penybont ar Ogwr yn wreiddiol, ond heddiw mae e’n byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu. Mae e’n gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac yn gweithio fel un o bartneriaid y cwmni Afallen.
Mae e wedi dysgu Cymraeg, yn ogystal â sawl iaith arall, ac mae e wedi byw yn Sbaen, Denmarc ac India.
Trafodon ni ei waith amgylcheddol a’i ddiddordeb mewn technoleg. Yn ein sgwrs mae Dave yn son am feddalwedd ffynhonnell arored (open source) – un enghraifft yw LibreOffice sydd ar gael yn Gymraeg.
Peidiwch â cholli’r pennod nesaf – tanysgrifiwch yma.
Geirfa
Caerhirfryn – Lancaster
Effeithlon – Efficient
Cyflymder – Speed
Offerynnau – Instruments
Y sector amgylcheddol – The environmental sector
Ynni adnewyddadwy – Renewable energy
Isadeiledd/Seilwaith – Infrastructure
Deddfau – Laws
Deddf cenedlaethau’r dyfodol – Future Generations Act
Cludiant – Transport
Gweithdai – Workshops
Gwylanod – Seagulls
Malwoden – Snail
Ffynhonnell agored – Open source
Meddalwedd – Software
Ysgwyddau – Shoulders