Mae ennill sylw yn y cyfryngau yn ffordd bwerus a chost-effeithiol i gyrraedd llawer o bobl. Ddim yn siwr sut i werthu’ch stori a delio gyda newyddiadurwyr? Rwy’n cynnig sesiynau hyfforddiant yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru.
(Os dych chi’n chwilio am sgiliau cyfweliadau cyfryngau, edrychwch ar fy hyfforddiant cyfryngau yn lle, fel arall – cariwch ymlaen…)

I bwy mae’r sesiynau?
Unrhyw un sy’n gweithio mewn elusen neu sefydliad nid-er-elw sydd eisiau ennill sylw yn y cyfryngau. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n newydd i gyfathrebu, yn ogystal â gweithwyr cyfrathrebu profiadol sydd eisiau datblygu sgiliau mewn cysylltiadau â’r cyfryngau.
Pam cymryd rhan?
Er ein bod ni’n byw yn oes Tiktok a Netflix, mae’r gallu i ennill a rheoli sylw yn y cyfryngau traddodiadol yn sgil sy’n handofol o hyd mewn elusennau a sefydliadau nid-er-elw.
Mae ymchwil gan Ofcom yn dangos bod 64% ohonon ni yng Nghymru yn gwylio newyddion teledu, a 48% yn defnyddio apiau a gwefannau newyddion. Dyna nifer fawr o bobl, a byddai hi’n anodd iawn eu cyrraedd ar y cyfryngau cymdeithasol!
Ond nid cyrhaeddiad yn unig sy’n bwysig. Mae’r cyfryngau yn ffordd effeithiol iawn o ddylanwadu ar wleidyddion a gwneuthurwyr penderfyniadau hefyd.
Beth sydd yn y cwrs?
Mae modd teilwra pob sesiwn at anghenion eich sefydliad. Fel arfer, byddai sesiwn hanner diwrnod (1:1 neu grwpiau bach) yn cynnwys:
- Esboniad o’r cyfryngau
- Beth sy’n gwneud stori da, ac am beth mae newyddiadurwyr yn ei chwilio
- Sut i greu cysylltiadau a gweithio gyda’r cyfryngau
- Paratoi asedau ar gyfer y cyfryngau a gwethu’ch stori chi
- Sut i ysgrifennu datganiad i’r wasg effeithiol
- Adolygu/adborth ar waith cyfryngau diweddar
- Trafodaeth a chyngor am strategaeth cyfathrebu
Pam fy newis i?
Rwy’n hyfforddwr cyfathrebu profiadol ac rwyf wedi rhedeg cyrsiau a gweithdai i cleientiaid sy’n cynnwys Hyfforddiant NUJ Cymru, TUC Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae gen i gefndir yn y cyfryngau a chyfathrebu, ac rwyf wedi gweithio fel newyddiadurwr (ITV Cymru) a rheolwr cyfathrebu a llefarydd (WWF Cymru).
Tysteb
“Roedd y sesiwn hyfforddi gan Richard yn hynod o fuddiol. Darparodd gyngor defnyddiol ac ymarferol sydd wedi llwyddo i gynyddu fy sgiliau a hyder yn y maes cyfryngau.”
– Cynrychiolydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Sut i ddarganfod mwy
Cysylltwch â fi trwy ebost os oes gennych chi gwestiynau, eisiau sgwrs, neu ofyn am ddyfnbris.