
Croeso’n ôl! Ar ôl saib o dros dwy flynedd, dyma chyfres arall o Bodlediad Hefyd i chi.
I ddechrau, rwy’n siarad gydag Israel Lai.
Mae Israel yn dod o Hong Kong yn wreiddiol, ond heddiw mae e’n byw ym Manceinion.
Yn y pennod yma, rydyn ni’n clywed am ei brofiadau o symud i Loegr, dysgu Cymraeg a nifer o ieithoedd eraill, ei sianel Youtube, a chyfansoddi cerddoriaeth.
Yn y sgwrs:
- Y llyfr mae Israel yn siarad amdano ydy Lleidr Penffordd gan Ifor Owen
- Allbwn ieithyddol Israel ‘Rhapsody in Lingo’ – ar ei Wefan, sianel Youtube ac Instagram
- Gwefan cerddorol Israel
Prynais i fiwsig newydd y podlediad o Sylvia Strand: www.screentales.co.uk