Archwilio cyfathrebu a datblygu strategaeth

Mae cyfathrebu effeithiol yn drefnus, strategol ac wedi’i seilio ar dystiolaeth. Gallaf helpu eich elusen neu sefydliad nid-er-elw i greu’r effaith mwyaf – boed hynny ar gyfer ymgyrchoedd, codi arian neu ymgysylltu â’r cyhoedd.

Llun gan by Karolina Kaboompics ar Pexels

Pam cynnal archwiliad cyfathrebu?

Os ydych chi am sicrhau bod eich cyfathrebu’n effeithiol, dechreuwch gan fod yn glir am sut mae pethau’n gweithio ar hyn o bryd.

Mewn archwiliad cyfathrebu, rwy’n dod â gwybodaeth am eich cyfathrebu cyhoeddus at ei gilydd – sy’n cynnwys eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol a sylw yn y cyfryngau traddodiadol – ac asesu sut mae hi’n cyfrannu tuag at amcanion eich sefydliad chi. Yno, rwy’n gwneud argymhellion am sut i wella.

Beth ydy manteision strategaeth cyfathrebu da?

Mae strategaeth yn eich helpu i sicrhau bod eich cyfathrebiadau’n gwneud gwahaniaeth go iawn, a bod adnoddau wedi’u targedu at yr hyn sy’n bwysicaf.

Mae elfennau allweddol strategaeth yn cynnwys:

  • Cynulleidfa(oedd) targed
  • Amcanion
  • Sianelu blaenoriaeth
  • Negeseuon allweddol
  • Dulliau gweithio

Gall strategaeth cyfathrebu da eich helpu chi i wneud penderfyniadau cyflym, cyrraedd amcanion mesuradwy, a lleihau pwysau ar eich tîm.

Pam defnyddio cymorth allanol?

Gall dod â chymorth llawrydd i’ch gwaith gynnig manteision clir:

  • Persbectifau newydd heb wleidyddiaeth fewnol.
  • Mae gwaith datblygu strategaeth wedi’i hwyluso’n annog cydweithio a chefnogaeth cydweithwyr.
  • Profiad ac arbenigedd o weithio gyda sefydliadau eraill yn y sector.
  • Capasiti ychwanegol er mwyn i’ch tîm cyfan gael amser i wneud eu cyfraniadau eu hunain.
  • Rhywun i yrru’n gwaith yn ei flaen, yn hytrach na’i adael i gael ei ohirio oherwydd blaenoriaethau eraill.

Pam fi?

Mae gen i’r sgiliau a’r profiad i helpu’ch sefydliad i gyfathrebu’n strategol.

Yn ogystal â bod wedi cynnal archwiliadau cyfathrebu a chefnogi datblygu strategaethau mewn capasiti llawrydd, rwyf wedi creu a chyflawni strategaethau a chynlluniau cyfathrebu/ymgyrchu yn ystod fy amser yn WWF Cymru. Mae gen i sgiliau cyfweld hefyd, o’m hamser yn ITV Cymru, a phrofiad o hwyluso a hyfforddi.

Rwy’n ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ac mae gen i wybodaeth eang o’r 3ydd sector a’r dirwedd cyfryngau/gwleidyddol yng Nghymru.

Tystebau

“Ysgrifennodd Richard strategaeth gyfathrebu ddefnyddiol iawn, yn seiliedig ar archwiliad cyfathrebu a gweithdy dwyieithog a hwyluswyd ganddo ymlaen llaw. Mae Richard yn gyfeillgar ac yn drylwyr, a helpodd ni i feddwl y tu allan i’r bocs. Byddwn yn sicr yn argymell gwasanaeth Richard.”

– Dr Bethan Sian Jones, Rheolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch

“We quickly got the sense that Richard really is on your side when he is working for you. He showed that he has his client’s interests first and foremost in his mind, doing great work where it plays to his strengths but recommending others where this is more cost effective. With the communications audit that he did for us, incisive and responsive are the top two words that spring to mind to describe his work.”

– Dr. Bruce Howard, Director, Ecosystems Knowledge Network

Eisiau sgwrs?

Os mae hyn yn swnio’n berthnasol i’ch sefydliad chi, cysylltwch â fi am sgwrs.