Podlediad Hefyd – Pennod 20, Byw ar y Ffin: Barbara a Bernard Gillespie

Barbara a Bernard Gillespie

Ein gwesteion ni y tro yma ydy Barbara a Bernard Gillespie.

Symudodd y cwpl o Wolverhampton yn Lloegr i ganolbarth Cymru ar ôl iddyn nhw ymddeol.

Yn y blynyddoedd ers hynny maen nhw wedi dysgu Cymraeg ac maen nhw’n defnyddio’r iaith yn aml iawn.

Trwy’r iaith maen nhw wedi gwneud ffrindiau ac maen nhw’n weithgar iawn mewn sawl grwp gwahanol. Yn y sgwrs yma rydyn ni’n trafod eu profiadau o symud i Gymru a dysgu’r iaith, y clybiau cymdeithasol yn eu hardal nhw, a thraddodiad y Plygain yn ystod cyfnod y Nadolig yn Sir Trefaldwyn.

Linciau

Cymdeithas Edward Llwyd

Merched y Wawr

Y Plygain ar Wicipedia

Leave a Reply