
Bydd rhai ohonoch chi’n ymwybodol fy mod i wedi lansio podlediad newydd – Hefyd. Mae hyn yn brosiect dwi wedi meddwl amdano ers sawl mis, ers i fi benderfynu bod hi’n amser i fy mhodlediad arall – Seismic Wales – ddod i ben.
Dwi’n teimlo’n gryf y dylen ni hyrwyddo a dathlu’r bobl sy’n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg – yn hytrach na chael eu magu yn yr iaith. Tu ôl i bob dysgwr mae stori anhygoel am pam a sut dysgon nhw, a’r effaith mae hi wedi cael ar eu bywydau nhw.
Ces i fy magu mewn teulu Saesneg yn Llandrindod, Powys, a’r unig addysg Cymraeg oedd TGAU Cymraeg ail iaith. Ar ôl graddio, roeddwn i’n ffodus iawn i gael lle mewn cwrs Cymraeg dwys yn Llambed – a thrwy hynny, datbygais i’r sgiliau a hyder i gynnal sgwrs go iawn.
Un o’r ffrindiau o’r cwrs yno yw fy ngwestai cyntaf. Un o Batagonia yw Walter Ariel Hughes – ac yn ei eiriau ei hun, mae’r Gymraeg wedi ‘newid ei fywyd’.
Roedd ei nain, fuoedd marw pan roedd Walter yn fabi, yn Gymraes, a sbardunodd ei stori hi ddiddordeb yn Walter a arweiniodd ato fe yn gwneud cwrs ‘blasu’ yn yr Ariannin. Aeth e ymlaen i’r cwrs yn Llambed, a chyrsiau eraill, a symudodd e a’i wraig i Gymru i chwilio am waith yn ystod argyfwng economaidd yn ne America. Ers hynny mae e wedi gweithio i Brifysgol Caerydd i ymchwilio’r Gymraeg ym Mhatagonia, gweithio fel tiwtor Cymraeg i ddygswyr eraill, a chreu cysylltiadau rhyngwladol i fyfyrwyr Cymru yn ei waith i’r Cyngor Prydeinig.
Ers bron ugain mlynedd mae Walter yn byw yng Nghaerdydd, ac heddiw mae ganddo teulu tairieithog sy’n siarad Sbaeneg adre a Chymraeg a Saesneg yn y gymuned. Rwy’n gobeithio eich bod chi’n mwynhau gwrando ar ei stori!

Diana Luft: Canada, Cymru, a Chymraeg Canol | Pennod 21 – Hefyd
Rhowch wybod i fi beth dych chi’n meddwl am y pennod peilot. Os hoffech chi enwebu rhywun (neu eich hunan!) i fod yn westai, ebostiwch fi: helo@richardnosworthy.cymru